Tag Archives: lleuad

lleuad – Cymraeg – Word of the Day (2017-12-03)

Lleuad

Y Lleuad neu’r Lloer yw unig loeren naturiol y Ddaear o sylwedd.

Mae’r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac mae tua 384,403 km o’r ddaear. Fe gymer 1.3 eiliad i’r goleuni o’r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i’r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i’w hamddiffyn. Credir i’r lleuad gael ei ffurfio 4.5 biliwn o flynyddoed yn ôl, ychydig wedi i’r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y mwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddo gael ei ffurfio o ddarnau o’r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a’r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod rhai o’r craterau ger pigyn y De yn cynnwys dŵr mewn ffurf rhew, ond dydy’r canlyniadau yma ddim wedi cael eu cadarnhau eto.